Ymddiriedolaeth Elusennol Rygbi Cymru



Pwy ydym ni

Ddechrau’r 1970au nododd pobl flaenllaw ym maes rygbi yng Nghymru fod angen sefydliad i roi cymorth i chwaraewyr a oedd wedi’u hanafu yn ddifrifol wrth chwarae rygbi’r undeb. Ar ôl trafod ag Undeb Rygbi Cymru (URC) cytunwyd y byddai’r Undeb yn ariannu’n rheolaidd elusen a fyddai’n annibynnol ar gorff llywodraethu’r gamp, er mwyn rhoi cymorth ariannol i chwaraewyr rygbi’r undeb yng Nghymru a chwaraewyr rygbi’r undeb o Gymru sy’n chwarae yn rhywle arall, sy’n profi caledi oherwydd anaf a gawsant wrth chwarae’r gamp.


Trwy weithred wedi’i dyddio 1 Rhagfyr 1972, sefydlodd URC a chwe Ymddiriedolwr cyntaf y sefydliad newydd Gronfa Elusennol Undeb Rygbi Cymru. Syr Tasker Watkins VC oedd Cadeirydd cyntaf yr Ymddiriedolwyr a chyflawnodd y swyddogaeth honno am dros 30 mlynedd. Roedd yn ddyn uchel ei barch yng Nghymru, a rhoddodd hynny hwb yn syth i’r elusen. Cafodd y Gronfa ei chofrestru gyda’r Comisiwn Elusennau, a’i rhif cofrestru oedd 502079. Trwy weithred atodol yn 1999, cafodd yr elusen ei hailenwi yn Ymddiriedolaeth Elusennol Rygbi Cymru.


Yn ystod y blynyddoedd ers 1972, mae’r elusen wedi rhoi cymorth i gannoedd o ddynion a menywod ifanc sydd ag anghenion a achoswyd gan anafiadau a gawsant wrth chwarae rygbi’r undeb. Mae’r help a ddarperir gan yr Ymddiriedolaeth yn amrywio o grantiau ariannol byrdymor pan fydd incwm chwaraewyr yn lleihau dros dro, i gostau addysg a hyfforddiant os oes angen, a chost prynu cerbydau wedi’u haddasu a thalu am addasu cartrefi er mwyn diwallu anghenion y chwaraewr a anafwyd. Mae gan yr Ymddiriedolaeth grŵp o chwaraewyr a anafwyd yn ddifrifol y mae cymorth hirdymor yn cael ei gynnig iddynt. Mae hefyd yn cynnig help byrdymor i chwaraewyr sy’n profi caledi dros dro oherwydd anafiadau.


Edward Jones oedd Ysgrifennydd Anrhydeddus yr Ymddiriedolaeth am lawer o flynyddoedd. Cyflawnodd y swydd yn rhagorol ac yn effeithlon dros ben ond gan ddangos gwir garedigrwydd. Mae’r Ymddiriedolaeth yn ddyledus iawn i Edward am ei waith gwych.

Beth rydym yn ei wneud

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae’r Ymddiriedolaeth wedi ehangu rhychwant ei help elusennol ac wedi bod yn rhoi grantiau i sefydliadau sy’n ceisio darparu cyfleoedd hamdden i chwaraewyr ag anableddau. Er enghraifft, mae’r Ymddiriedolaeth wedi cydnabod y gwaith ardderchog y mae Rygbi Cadair Olwyn Prydain Fawr yn ei wneud a chynigiodd gymorth ariannol i’r grŵp hwnnw.


Yn ystod y degawd diwethaf, mae’r Ymddiriedolaeth wedi cael ei chadeirio gan Lywydd URC, Dennis Gethin OBE. Dan ei arweinyddiaeth ddeallus a thosturiol ef, mae’r Ymddiriedolaeth wedi diwygio ei phrosesau er mwyn mynd i’r afael â’r heriau y mae elusennau’n eu hwynebu yn yr unfed ganrif ar hugain ac er mwyn sicrhau bod chwaraewyr a anafwyd yn cael cynnig cymorth cymdeithasol yn ogystal â chymorth ariannol, drwy’r rhwydwaith y mae’r Ymddiriedolaeth wedi’i greu.


Er bod yr Ymddiriedolaeth yn cael cymorth ariannol hael bob blwyddyn gan URC, mae codi arian yn dal yn rhan bwysig o’i gwaith. Mae incwm o’r holl ddigwyddiadau a drefnir gan yr Ymddiriedolaeth, megis y diwrnod golff blynyddol, teithiau beicio noddedig a’r elw o werthu llyfr coginio â rygbi’n thema iddo, yn gwneud cyfraniad o bwys i gronfeydd yr Ymddiriedolaeth. At hynny mae rhoddion gan Glybiau, cwmnïau ac unigolion, a rhoddion mewn ewyllysiau i’r Ymddiriedolaeth, yn ffynonellau pwysig o incwm i’r elusen.



Cysylltwch a ni

Yr Tim

Cyfrannu

Digwyddiadau

Newyddion